Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:48-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

48. A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.

49. A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.

50. Ac wele, gŵr a'i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn:

51. (Hwn ni chytunasai â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw;

52. Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.

53. Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.

54. A'r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a'r Saboth oedd yn nesáu.

55. A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.

56. A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23