Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:44-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

45. A'r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.

46. A'r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.

47. A'r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.

48. A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.

49. A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.

50. Ac wele, gŵr a'i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn:

51. (Hwn ni chytunasai â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw;

52. Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.

53. Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.

54. A'r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a'r Saboth oedd yn nesáu.

55. A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23