Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:26-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ôl yr Iesu.

27. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.

28. A'r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.

29. Canys wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a'r crothau nid epiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.

30. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

31. Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?

32. Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.

33. A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a'r llall ar yr aswy.

34. A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23