Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:18-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:

19. (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)

20. Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.

21. Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.

22. Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.

23. Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.

24. A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.

25. Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.

26. Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ôl yr Iesu.

27. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.

28. A'r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.

29. Canys wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a'r crothau nid epiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.

30. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

31. Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?

32. Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23