Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Peilat:

2. Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.

3. A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.

4. A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a'r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.

5. A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi'r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma.

6. A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn.

7. A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8. A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.

10. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11. A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12. A'r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23