Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:39-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.

40. A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.

41. Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,

42. Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43. Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.

44. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.

45. A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;

46. Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.

47. Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa; a'r hwn a elwir Jwdas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i'w gusanu ef.

48. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?

49. A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?

50. A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef.

51. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.

52. A'r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?

53. Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch.

54. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ'r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22