32. Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th droer, cadarnha dy frodyr.
33. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau.
34. Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi.
35. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.
36. Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau amdanaf fi.
38. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40. A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
41. Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42. Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43. Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
44. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
45. A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;