10. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11. A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
12. Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
13. Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14. Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:
15. Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.
16. A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.
17. A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.
18. Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.
19. Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
20. A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu.
21. Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.
22. Canys dyddiau dial yw'r rhai hyn, i gyflawni'r holl bethau a ysgrifennwyd.
23. Eithr gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.
24. A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25. A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;