1. Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
2. Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:
4. Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5. Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6. Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw'r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis datodir.
7. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo'r pethau hyn ar ddyfod?
8. Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt.
9. A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.
10. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11. A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
12. Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
13. Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14. Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:
15. Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.
16. A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.
17. A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.