37. Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o'r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.
38. A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.
39. Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w dinas eu hun Nasareth.
40. A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41. A'i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg.
42. A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl.
43. Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a'i fam ef:
44. Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a'u cydnabod.
45. A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.
46. A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47. A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a'i atebion.
48. A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.
49. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?
50. A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.