Hen Destament

Testament Newydd

Luc 2:26-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27. Ac efe a ddaeth trwy'r ysbryd i'r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith;

28. Yna efe a'i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,

29. Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air:

30. Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,

31. Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;

32. Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.

33. Ac yr oedd Joseff a'i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef.

34. A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;

35. (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.

36. Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o'i morwyndod;

37. Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o'r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 2