20. A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth.
22. Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd;
23. (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd;)
24. Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen.
25. Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a'i enw Simeon; a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Ysbryd Glân oedd arno.
26. Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.
27. Ac efe a ddaeth trwy'r ysbryd i'r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith;
28. Yna efe a'i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29. Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air:
30. Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,
31. Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;
32. Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.
33. Ac yr oedd Joseff a'i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef.
34. A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;
35. (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.
36. Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o'i morwyndod;