Hen Destament

Testament Newydd

Luc 19:14-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.

15. A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw'r gweision hyn ato, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata.

16. A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt.

17. Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.

18. A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.

19. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas.

20. Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn:

21. Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.

22. Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:

23. A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog?

24. Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd â deg punt ganddo;

25. (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)

26. Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.

27. A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.

28. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem.

29. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,

30. Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.

31. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 19