Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.