Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.

2. Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.

3. A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth?

4. A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymerodd ato, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith;

5. Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth?

6. Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14