25. Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau'r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych:
26. Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni.
27. Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd.
28. Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
29. A daw rhai o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, ac o'r gogledd, ac o'r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.
30. Ac wele, olaf ydyw'r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw'r rhai a fyddant olaf.
31. Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i'r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a'r trydydd dydd y'm perffeithir.
33. Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem.
34. O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio'r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
35. Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.