1. Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau.
2. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na'r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
3. Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
4. Neu'r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na'r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem?
5. Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
6. Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd.
7. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho'r tir?
8. Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail:
9. Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr.
10. Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.
11. Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni.
12. Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid.
13. Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw.
14. A'r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i'r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth.