Hen Destament

Testament Newydd

Luc 10:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.

5. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.

6. Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys arno: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi.

7. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.

8. A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau:

9. Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch.

10. Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,

11. Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.

12. Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.

13. Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.

14. Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.

15. A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.

16. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 10