37. Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38. A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a'i henw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thÅ·.
39. Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
40. Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
41. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau:
42. Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.