15. A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.
17. A'r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
18. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.
19. Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.
20. Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhewch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
21. Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.
22. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw'r Mab, ond y Tad; na phwy yw'r Tad, ond y Mab, a'r neb y mynno'r Mab ei ddatguddio iddo.
23. Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o'r neilltu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25. Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?
26. Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?
27. Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl; a'th gymydog fel ti dy hun.
28. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.