Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:9-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe.

10. Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?

11. Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.

12. Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.

13. Hwythau a'i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall.

14. A'r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.

15. Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.

16. Yna rhai o'r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw'r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw'r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.

17. Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe.

18. Am hynny ni chredai'r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg.

19. A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?

20. Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef:

21. Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano'i hun.

22. Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni'r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o'r synagog.

23. Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef.

24. Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw'r dyn hwn.

25. Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9