3. Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.
4. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae'r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.
5. Tra ydwyf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.
6. Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall;
7. Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8. Y cymdogion gan hynny, a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw'r un oedd yn eistedd ac yn cardota?
9. Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe.
10. Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?
11. Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.
12. Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.
13. Hwythau a'i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall.
14. A'r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.
15. Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.