Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:22-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni'r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o'r synagog.

23. Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef.

24. Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw'r dyn hwn.

25. Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.

26. Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?

27. Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch:paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef?

28. Hwythau a'i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni.

29. Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe.

30. Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.

31. Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.

32. Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.

33. Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim.

34. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.

35. Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?

36. Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

37. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a'i gwelaist ef; a'r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe.

38. Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a'i haddolodd ef.

39. A'r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i'r byd hwn; fel y gwelai'r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai'r rhai sydd yn gweled yn ddeillion.

40. A rhai o'r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?

41. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9