Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?

20. Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef:

21. Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano'i hun.

22. Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni'r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o'r synagog.

23. Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef.

24. Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw'r dyn hwn.

25. Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.

26. Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?

27. Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch:paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef?

28. Hwythau a'i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni.

29. Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe.

30. Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9