44. O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
45. Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.
46. Pwy ohonoch a'm hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi?
47. Y mae'r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.
48. Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul?
49. Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau.
50. Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.
51. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd.
52. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.
53. Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?
54. Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw.
55. Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.
56. Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd.
57. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham?
58. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi.
59. Yna hwy a godasant gerrig i'w taflu ato ef. A'r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.