Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 8:20-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.

21. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

22. Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o'r byd hwn; minnau nid wyf o'r byd hwn.

24. Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.

25. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.

26. Y mae gennyf fi lawer o bethau i'w dywedyd ac i'w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw'r hwn a'm hanfonodd i; a'r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i'r byd.

27. Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.

28. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.

29. A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef.

30. Fel yr oedd efe yn llefaru'r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 8