Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.

2. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos.

3. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

4. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.

5. Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo.

6. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.

7. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.

8. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i'r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto.

9. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.

10. Ac wedi myned o'i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i'r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7