Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:62-71 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

62. Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o'r blaen?

63. Yr ysbryd yw'r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt.

64. Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o'r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a'i bradychai ef.

65. Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.

66. O hynny allan llawer o'i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef.

67. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith?

68. Yna Simon Pedr a'i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.

69. Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw'r Crist, Mab y Duw byw.

70. Iesu a'u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol?

71. Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o'r deuddeg.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6