47. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.
48. Myfi yw bara'r bywyd.
49. Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw.
50. Hwn yw'r bara sydd yn dyfod i waered o'r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw.
51. Myfi yw'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r nef. Os bwyty neb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
52. Yna yr Iddewon a ymrysonasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta?
53. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.
54. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
55. Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i sydd ddiod yn wir.
56. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.
57. Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy'r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi.
58. Dyma'r bara a ddaeth i waered o'r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta'r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.
59. Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum.
60. Llawer gan hynny o'i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw'r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno?
61. Pan wybu'r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
62. Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o'r blaen?