Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:39-53 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. A hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd i; o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.

40. A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i; cael o bob un a'r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a'i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.

41. Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw'r bara a ddaeth i waered o'r nef.

42. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O'r nef y disgynnais?

43. Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd.

44. Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a'i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.

45. Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.

46. Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad.

47. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.

48. Myfi yw bara'r bywyd.

49. Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw.

50. Hwn yw'r bara sydd yn dyfod i waered o'r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw.

51. Myfi yw'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r nef. Os bwyty neb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.

52. Yna yr Iddewon a ymrysonasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta?

53. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6