Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:21-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.

22. Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i'r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai'r Iesu gyda'i ddisgyblion i'r llong, ond myned o'i ddisgyblion ymaith eu hunain;

23. (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i'r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:)

24. Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na'i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.

25. Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?

26. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.

27. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.

28. Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?

29. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe.

30. Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?

31. Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.

32. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi'r bara o'r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi'r gwir fara o'r nef.

33. Canys bara Duw ydyw'r hwn sydd yn dyfod i waered o'r nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.

34. Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni'r bara hwn yn wastadol.

35. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara'r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.

36. Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.

37. Yr hyn oll y mae'r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a'r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6