Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A thyrfa fawr a'i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.

3. A'r Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda'i ddisgyblion.

4. A'r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.

5. Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?

6. (A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)

7. Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.

8. Un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr,

9. Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer?

10. A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer.

11. A'r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o'r pysgod, cymaint ag a fynasant.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6