34. Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
35. Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i'w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai'r Tad a'm hanfonodd i.
37. A'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
38. Ac nid oes gennych chwi mo'i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
39. Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw'r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
40. Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
41. Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42. Ond myfi a'ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43. Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
44. Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio'r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
45. Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a'ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46. Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.