21. Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
22. Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:
23. Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu'r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu'r Mab, nid yw yn anrhydeddu'r Tad yr hwn a'i hanfonodd ef.
24. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.
26. Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;
27. Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.
28. Na ryfeddwch am hyn: canys y mae'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef:
29. A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
30. Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a'm hanfonodd i.
31. Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32. Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.
33. Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i'r gwirionedd.
34. Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.