Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 4:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.

7. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.

8. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i'r ddinas i brynu bwyd.)

9. Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach â'r Samariaid.

10. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.

11. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?

12. Ai mwy wyt ti na'n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni'r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a'i feibion, a'i anifeiliaid?

13. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:

14. Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.

15. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.

16. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.

17. Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:

18. Canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.

19. Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti.

20. Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae'r man lle y mae yn rhaid addoli.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 4