Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 4:40-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.

41. A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun.

42. A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw'r Crist, Iachawdwr y byd.

43. Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.

44. Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.

45. Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i'r ŵyl.

46. Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.

47. Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.

48. Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.

49. Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.

50. Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.

51. Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.

52. Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 4