Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 4:32-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.

33. Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i'w fwyta?

34. Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen ei waith ef.

35. Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw'r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i'r cynhaeaf.

36. A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd.

37. Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, Mai arall yw'r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.

38. Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt.

39. A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.

40. Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.

41. A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun.

42. A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw'r Crist, Iachawdwr y byd.

43. Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 4