Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 3:4-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?

5. Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.

6. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd; a'r hyn a aned o'r Ysbryd, sydd ysbryd.

7. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn.

8. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd.

9. Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?

10. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?

11. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.

12. Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?

13. Ac nid esgynnodd neb i'r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.

14. Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;

15. Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

16. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

17. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.

18. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw.

19. A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.

20. Oherwydd pob un a'r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu'r goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.

21. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.

22. Wedi'r pethau hyn, daeth yr Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.

23. Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a'u bedyddiwyd:

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 3