2. Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.
3. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
4. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?
5. Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
6. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd; a'r hyn a aned o'r Ysbryd, sydd ysbryd.
7. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn.
8. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd.
9. Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?
10. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?
11. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
12. Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?
13. Ac nid esgynnodd neb i'r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14. Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;
15. Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.