Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y dydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto'n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.

2. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a'r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.

3. Yna Pedr a aeth allan, a'r disgybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd;

4. Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r disgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.

5. Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.

6. Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod;

7. A'r napgyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyda'r llieiniau, ond o'r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall.

8. Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd.

9. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw.

10. Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt.

11. Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i'r bedd;

12. Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu.

13. A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.

14. Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe.

15. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai'r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymeraf ef ymaith.

16. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro.

17. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.

18. Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.

19. Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

20. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.

21. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.

22. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân.

23. Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.

24. Eithr Thomas, un o'r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.

25. Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.

26. Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.

27. Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.

28. A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.

29. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.

30. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

31. Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.