Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno.

2. A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddisgyblion i'r briodas.

3. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin.

4. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2