Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno.

2. A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddisgyblion i'r briodas.

3. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin.

4. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.

5. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

6. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.

7. Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.

8. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.

9. A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,

10. Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

11. Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a'i ddisgyblion a gredasant ynddo.

12. Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a'i fam, a'i frodyr, a'i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

13. A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a'r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2