Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 19:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.

4. Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.

5. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a'r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele'r dyn.

6. Yna yr archoffeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.

7. Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.

8. A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy;

9. Ac a aeth drachefn i'r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo.

10. Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i'th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd?

11. Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.

12. O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar.

13. Yna Peilat, pan glybu'r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.

14. A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.

15. Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 19