Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 19:21-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.

22. Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.

23. Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio'r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf trwyddi oll.

24. Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A'r milwyr a wnaethant y pethau hyn.

25. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen.

26. Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a'r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.

27. Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i'w gartref.

28. Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

29. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch isop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.

30. Yna pan gymerodd yr Iesu'r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.

31. Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai'r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.

32. Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau'r cyntaf, a'r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.

33. Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 19