Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 19:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.

12. O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar.

13. Yna Peilat, pan glybu'r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.

14. A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.

15. Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.

16. Yna gan hynny efe a'i traddodes ef iddynt i'w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymaith.

17. Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle'r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:

18. Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.

19. A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a'i dododd ar y groes. A'r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.

20. Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o'r Iddewon; oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.

21. Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 19