1. Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd ef.
2. A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano;
3. Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.
4. Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.
5. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a'r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele'r dyn.
6. Yna yr archoffeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.
7. Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
8. A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy;
9. Ac a aeth drachefn i'r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo.