Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:30-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti.

31. Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb:

32. Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw.

33. Yna Peilat a aeth drachefn i'r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?

34. Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a'i dywedasant i ti amdanaf fi?

35. Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a'r archoffeiriaid a'th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti?

36. Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwn. Pe o'r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.

37. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y'm ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i.

38. Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.

39. Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?

40. Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A'r Barabbas hwnnw oedd leidr.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18