Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddisgyblion.

2. A Jwdas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenai'r lle: oblegid mynych y cyrchasai'r Iesu a'i ddisgyblion yno.

3. Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a'r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.

4. Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?

5. Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt.

6. Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.

7. Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth.

8. Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith:

9. Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r un.

10. Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw'r gwas oedd Malchus.

11. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?

12. Yna'r fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef,

13. Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe.

14. A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18