Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 17:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.

20. Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt:

21. Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo'r byd mai tydi a'm hanfonaist i.

22. A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:

23. Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo'r byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi.

24. Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y byd.

25. Y Tad cyfiawn, nid adnabu'r byd dydi: eithr mi a'th adnabûm, a'r rhai hyn a wybu mai tydi a'm hanfonaist i.

26. Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â'r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 17