26. Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef.
27. Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon.
28. O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.
29. Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
30. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o'm hachos i y bu'r llef hon, ond o'ch achos chwi.
31. Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
32. A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.
33. (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.)
34. Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o'r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn?
35. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae'r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae'n myned.
36. Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.